Mae SMART Circle yn brosiect ymchwil diwydiannol cydweithredol gwerth £1 miliwn i archwilio sut y gellir defnyddio biobrosesau arloesol i wella effeithlonrwydd cyffredinol ystod o weithrediadau diwydiannol. Mae'r prosiect hefyd yn anelu at ddatblygu technoleg a all adennill moleciwlau gwerth uchel nas defnyddir, gan gynnwys maetholion ac ensymau, o ddeunyddiau gwerth isel fel llaid carthion.
Mae’r prosiect yn rhan o raglen SMARTExpertise Llywodraeth Cymru ac yn cael ei ariannu drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Dechreuodd Smart Circle ym mis Medi 2017 a bydd yn rhedeg am dair blynedd.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan SMART Circle.
Mae Smart Circle yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
.
https://www.walesadcentre.org.uk/hafan/ymchwil-a-datblygu-diwydiannol/prosiect-smart-circle/